|
In the early part of the 1st millenium
BC a powerful and brilliant society emerged in West Central Europe
around the headwaters of the River Danube - these people were the
Celts. By the 5th century BC the British Isles were Celtic with
the existing native population being absorbed into the new culture.
The Celtic language in the British
Isles consisted of two distinct groups; Giodelic (Gaelic or Q-Celtic)
and Brythonic (British or P-Celtic). Gaelic was spoken in Ireland,
the Highlands and Islands of Scotland, and the Isle of Man. The
rest of Britain including Wales spoke Brythonic. With the Roman
Invasion in 43AD onwards, the Brythonic language survived alongside
latin, and some latin words were added to the language.
After the Roman withdrawal in the
early 5th century AD, Germanic tribes came across the North Sea
to colonise Britain. These groups (generally known as the Anglo-Saxons)
spoke a language that was the precursor of the English language,
and the Celts in south-eastern Britain were absorbed into their
culture. The Celtic west resisted fiercely, but Anglo-Saxon victories
at Dyrham near Bath in 577AD, and Chester in 616AD, isolated the
Celts of Wales from the Celts of south-west Britain and Cumbria
respectively. Many Celts fled from Britain to Brittany in France.
|
Yn gynnar yn y mileniwm cyntaf CC fe gododd cymdeithas
nerthol a galluog yng Ngorllewin Canol Ewrop o gwmpas tarddiadau'r
Afon Donaw - rhain oedd y Celtiaid. Erbyn y 5ed ganrif CC roedd
ynysoedd Prydain yn Geltaidd hefo'r boblogaeth frodorol a oedd yno'n
barod yn cael eu llyncu i fewn i'r diwylliant newydd.
Roedd yr iaith Geltaidd ym Mhrydain yn cynnwys
dau grwp gwahanol; Goideleg (Gaeleg neu Q-Celteg) a Brythoneg (neu
P-Celteg). Siaradwyd Gaeleg yn yr Iwerddon, yn Ucheldiroedd ac Ynysoedd
yr Alban, ac yn Ynys Manaw. Roedd gweddill Prydain (gan gynnwys
Cymru) yn siarad Brythoneg. Ar ôl i'r Rhufeiniaid lanio'n
43 OC, fe barhaodd yr iaith Frythonaidd ochr yn ochr â Lladin,
ac fe gafodd rhai geiriau Lladin eu ychwanegu at yr iaith.
Wedi i'r Rhufeiniaid adael Prydain yn gynnar yn
y 5ed ganrif OC, fe ddaeth llwythau Almaenig ar draws Môr
y Gogledd i wladychu Prydain. Roedd y grwpiau hyn (a'u hadnabyddir
yn gyffredinol fel y Saeson) yn siarad iaith a fyddai'n datblygu
i fewn i'r iaith Saesneg, a llyncwyd y Celtiaid yn ne-ddwyrain Prydain
i fewn i'w diwylliant. Fe wrthsefodd y Celtiaid yn y gorllewin yn
ffyrnig, ond fe dorrwyd Celtiaid Cymru i ffwrdd o'r Celtiaid yn
ne-orllewin Prydain ac yn Rheged (yn y gogledd-orllewin) gan fuddugoliaethau'r
Saeson yn Dyrham ger Caerfaddon yn 577 OC, ac yng Nghaer yn 616
OC. Fe ffôdd lawer o'r Celtiaid o Brydain i Lydaw yn Ffrainc.
|